We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Pibellau

by Hap a Damwain

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £1 GBP  or more

     

about

Ma'n amser maith ers nes di ddod yn ol
Y dagrau'n llifo fel yr alcohol
Ond nawr mae pethau'n gwella
Rhwng y pibellau

Dwi'n anatod ond dwi'n eithaf clwm
Pam ddoist ti nol ma gyda calon plwm?
Ti'n caru'r tywyllwch
Bob dydd yn ddirgelwch

Cyrraedd man lle oedd my mhen yn syth
Dod nol i ddodwy yn fy nyth
Ond nawr mae pethe'n gwella
Rhwng y pibellau

Amser maith ers nes di ddod yn ol
Dim byd yn llifo ond alcohol
Ti'n mynd trwy dy bethau
Rhwng y pibellau

Dwi'n trio rhoi eiliad mewn i geiriau ond dwi methu
Mae'n diflannu cyn fi troi fyny
Nes i benderfyny tyfu barf
Clirio'r anwedd i ffwrdd o'r drych yn y 'stafell molchi
Gwichio ar fy mynegfys
A dyna fo yn dod i'r golwg - fy nhad
Di cael cawod, a rhuthro syllu nol arnai
Gwallt du trwchus, barf gwyn ar ei wyneb caredig
Fel hanner o 'guiness' pen i waered mewn gwydr brandi
Syllais. Oedd o i weld wedi drysu
Traed brain ar ei lygaid llwyd main
Rhywun oedd wedi gwenu gormod
Profiad rhyfedd oedd i mam gweld ei gwr ling di long ar y llwybr mewn 'hoodie'
Ond dyna fo - Nol o'r apwyntiad yn yr ysbyty undegpedwar o flynyddoedd yn ol
Mae galar wastad yn bresenol
Ond does neb yn siarad amdana fo
Dim ond efallai ar benblwydd neu briodas
Mae profedigaeth yn llechu mewn sied
Bocsys hoelion a sgriwiau
Plygiau a ffiwsiau wedi ei labelu'n orfodol
Lluniau polaroid mewn bocsys llychlyd
Delweddau du a gwyn o gyplau'n gwenu mewn flares a sgertiau mini
Yn cydio mewn potiau peint
'Snowballs' a ' Babyshams'
Nosweithiau tragwyddol yr haf

Cyrraedd man lle oedd my mhen yn syth
Dod nol i ddodwy yn fy nyth
Ond nawr mae pethe'n gwella
Rhwng y pibellau

Amser maith ers nes di ddod yn ol
Dim byd yn llifo ond alcohol
Ti'n mynd trwy dy bethau
Rhwng y pibellau

credits

released February 3, 2024

license

all rights reserved

tags

about

Hap a Damwain Colwyn Bay, UK

Caneuon bop a baledi arbrofol o Fae Colwyn. Sefydlwyd yn 2019. Aelodau: Hap (Offerynau a thechnoleg) a Damwain (llais)

Pop songs and experimental ballads from Colwyn Bay. Established in 2019. Members: Hap (Instruments and technology) and Damwain (vocals)
... more

contact / help

Contact Hap a Damwain

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this track or account

If you like Hap a Damwain, you may also like: