We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Hanner Cant

by Hap a Damwain

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £5 GBP  or more

     

  • Cryno Ddisg Nifer Cyfyngedig/Limited Edition Compact Disc
    Compact Disc (CD) + Digital Album

    Includes unlimited streaming of Hanner Cant via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.

    Sold Out

1.
Y Lluniau 02:34
Coda o dy ‘lunie Torra lawr y ffinie Byta bwyd o binie A lle mae’r F-ing siswrn Nes di benthyg o i’r sipsiwn Sibrwd ac yn sisial Yn datod y cymylau Oedd chdi efo rhyw geffylau Pawb yn tynnu stumie Amneidio am afalau Trip ysgol Abertawe Atebion ar dy lawes Dileua y gorffenol Mae o’n rhy wahanol Dio ddim yn perthyn rwan Felly coda fyny’r corwynt Hawlio yn ol Epynt Dipyn bach o helynt ‘Dyro olau ar dy eiriau Dyro afael yn y gwir Dyro i ni sypiau grawnwin Grawnwin aeddfed Canaan dir Er mor felys yw y grawnwin Er mae’n cludo ffordd mor bell Yn y wlad lle maent yn tyfu Diau byddent llawer gwell’ [Emyn 305 – Y Caniedydd Cynulleidfaol] Nain a Taid a plentyn Hen Daid yn smygu’i getyn Ymreiddio i’r hen elyn Golffio trwy melinau gwynt Colli sawl pelen Yfed fel Sue-Ellen Gwenu megis gatiau Swyddfeudd yn gwisgo hetiau Wyliau heb adnoddau Bu farw Maradona Tra dwi’n edrych trwy llyfrau tonna Ceisio dwyn y geiriau, fel y gola (Heddwch i’w lwch o) Torra fyny’r lluniau Ailgylcha nhw Plis, jyst torra fyny’r lluniau plis Plis jyst ailgylcha nhw Ailgylcha nhw
2.
Yuri Gagarin 04:02
3.
Mam Bach 03:45
Mam Bach O ie, mam Bach Mae'n ddrwg gennai am ddiflannu o ni'n chwylio am bach o awyr iach Piga fyny'r 'sgriptiwn, pasia fi y rhaff Efallai nei di sylwi da ni jyst yr un fath Hwyl fawr mam llai Ar ol gymaint o flynyddoedd, ydio'n amser i mi gymryd bai? Cadw fy ffydd Cadw-mi-gei A mae'r cleisiau yn diflannu, ond pa rei? O ie, mam bach Ges di ddim y dewis pan yn rhwygo mi o dy sach A bodda fi nawr, mae'n debyg mod i'n wrach Nid yfory, fallai, ond w'rach Bob mam yn fawr Gei di alw o'n wirionedd, galw o yn ffawd Fi di'r bys a ti di'r bawd Efo'n gilydd, bydysawd
4.
Tŷ Baw 02:59
Ti’n gwario ‘Bitcoin’ fatha putain Amser maith yn ol, creu y ‘Damwain’ Ddim yn bresennol Troi yn aeafol Pasg wedi rhewi Bod yn arbrofol Cynna tan nwy Ceisio difrodi Dim mwy na hobi Sy’ methu dadansoddi Felly croeso draw i’r ty baw – Croeso draw Cloddio’r bwystfil Oedd y rhwystyr Un ‘Damwain’ yn llai Yn y baw-dai Ti’n gwario ‘Bitcoin’ fatha putain Amser maith yn ol, creu y ‘Damwain’ Dechre cwestiynnu Dwi ‘rioed di bodoli Perthnasau yn pylu Dinasoedd yn pydru Yn y Ty Baw ti methu gafael yn fy llaw Ag yn y Ty Baw mae’n hanner awr ‘di naw Yn y Ty Baw disgwyl am y glaw Yn y Ty Baw dwi methu gafael yn dy law Yn y Ty Baw disgwyl am y glaw Yn y Ty Baw dwi methu gafael yn dy law Dechre cwestiynnu Dwi ‘rioed di bodoli Perthnasau yn pylu Dinasodd yn pydru Ceiso gwneud synnwyr O be ti’n olygu Mae realiti’n plygu Pryd ti’n cael dy ddedfrydu Felly sgwennai’n wythnosol Os di hynny yn briodol Yn y Ty Baw methu gafael yn fy llaw Yn y Ty Baw mae’n hanner awr ‘di naw Yn y Ty Baw disgwyl am y glaw Yn y Ty Baw dwi methu gafael yn dy law
5.
A&E 04:48
Cymryd y cemege Mynd hefo’r technege Mynd yn ol i’r dechre Teimlo’n ddrwg am fisoedd Breuddwydio mewn canrifoedd Helynt yn hel bachau Defnyddio’r dychymig Cymerais tair cynnig Trio bod yn fentrus Mae’n unig yn y gofod Dydio ddim yn darfod Mewn gwacter dwi’n fwy serchus Clwyddau hefo’r deintydd Adeiladu pontydd Ben fy hunan dwi’n cael gormod o lonydd Trio cadw’n heini Welai di yn A&E Rhaid cydweithio Rhannu llefydd parcio Siarad hefo’r postmon Clirio fyny’r llanast Gwylan yn y biniau O ni methu symud Torri y corneli Rhannu y taflenni Gweiddi ar y geiriau Tagu ar dy finiwr Torri lawr y ffiniau Boddi yn y tonnau yn ystod awr ginio Trwsio pethe o gwmpas ty Welai di yn A&E Hongian hefo’r bradwyr Achos y siaradwyr Mynnu y goleuni Pedwar llyfr Nadolig Gin heb tonic Gorwedd ar y meini Crio yn y lolfa Arwydd mod i’n gwella Paentio bara menyn Dallu gan y machlyd Bod yn nawddoglyd Pan dwi ar dy dennyn Cerdded mewn i’r cawell Nol mewn i’r rhewgell Ymddihaeraf, ‘dach chi’n haeddu llawer gwell A dwi’n codi erbyn amser te Welai di yn A&E Cydweithio Rhannu llefydd parcio Mes i mewn i maesydd Ti’n clirio fyny’r llanast Trwsio gwmpas pethe yn y ty Welai di yn A&E Hongian hefo’r bradwyr Achos y siaradwyr Mynnu y goleuni Gen ti pedwar llyfr Nadolig Gin heb tonic Welai di yn A&E Trio cadwi’n heini Welai di yn A&E Rhaid Cydweithio Cymryd y cemege Fatha bechgyn deche Mynd yn ol i’r dechre Teimlo’n ddrwg ers fisoedd Breuddwydio mewn canrifoedd Helynt yn hel achau Defnyddia dy ddychymyg Cymerais y tair cynnig Yn A&E
6.
Rhyl 05:41
A ‘ma na rhywun wrth y drws eto Creu celwyddau fel Geppetto Herio fy nychymig Sgennai’m byd i’w gynnig ‘Yr efengyl yn ol Rhyl’ Ydio’n rhy hwyr i ymddiheuro? Dwi heb dyfeisio’r geiriau Ond diolch am alw heibio Dwi dal yn gynas dan y cynfas Ymlysgo o fy mhydew Lawr i’r siop elysennol Rhyw fath o baradwys Ond paid a gymryd o’n llythrennol ‘Yr efengyl yn ol Rhyl’ Pryd mae’r dafarn yn agor? Dwi’m yn meddwl fedrai gymryd rhagor Mae na oriawr ar fy ngarddwn Ond dwi’n rhy wan i godi angor Meddyliais i am ennyd Be am wella fy afiechyd Ymchwylio fy hapusrwydd Mynychu lle cyfarwydd A boed yn y cwrt, yn y llys, yn y buarth Dwi’m digon da i dod i nabod bobl diarth ‘Yr efengyl yn ol Rhyl’ Mamau efo’r run brawd Disgyn ar dy anffawd Yn Llwyn Balmoral Dangosais di dy gwmpawd Ac o ‘na griw o derfysgwyr Ar Stryd Y Baddon Oedd genna nhw’m calonnau O nhw’n eitha gweddol O na ‘drugs raid’ Ar East Parade Tra o ni’n gwthio ceiniogau Draw yn yr arced Es i draw i Bodfor O ni’n nofio yn y cilfor Nath rhywun dwyn fy nhrwsus Ac oedd bob dim yn borffor O ni yn Y Rhyl Cadwa pethe’n Rhyl O ni yn Y Rhyl Cadwa fo’n Rhyl
7.
Dim Jam 03:59
Cael fy ngwahodd i gyfarfod ysgolheigion I.Q ffigwr sengl hefo’r ceg iawn Trefnu rhywbeth at yr ha’ Grantiau celf, amser da Ceisio godro’r system, bobl methu byta Be di’r uchafbwyntiau? Dach chi gyd yn gweithio o adre Mae eich swyddi chi’n dibwys Ond dach chi dal yn eich paradwys Nes i dreulio’r flwyddyn naid efo’r ysgolhaig Nes i ddechre fo’n sobor, diwedd dilyn y ddraig Neud mwy o synnwyr fela Tripio allan, Zoom chats acappella Pwy sy’n gallu bullshitio pella? Tra ma ngwinedd yn cael trafferth gadw gafael ar bethe Dwi’n cusannau ar y tair foch, gwrido nawr, ti’n neud o’n goch A dal isio ffwcio fyny’r moch, tai ha’ Abersoch Bach o ‘Google chats’, collais i fy enaid Bod yn y cyfarfod pan do ni ddim yn barod Ond do na’m pili pala Neb yn torri bara A chi sy’n addysgu tra dwi’n trio cysgu A ti’n torri fyny’r plisgyn Gwylia ‘gofn fi ddisgyn Rhag ofn ti’n malu cachu pryd dwi’n trio cael snooze Fatha dau berson Pumpdeg yn trio mynd ar cruise O na – Sion Corn a reu A be sy’n dod ohona ni – dim byd Dwi’n parchu y byddar, arwyddo hefo’r mud Bob person o pob stryd A ffwcio yr heddlu cudd A ffwcia bob Tori A pob un Nazi Dim dy etifedd ydi’r broblem Ti’n byta pastie – dy dymheredd Ti’m yn siwr, ti’n sefyll yn y llinell A ‘sgen ti’m syniad lle dwi’n sefyll Ti’n edrych y ffordd arall, dwi’n edrych mor erchyll Dwi’n edrych ffordd hyn a’r llall A dwi’n edrych gymaint dwi bron iawn yn ddall A tra mae’r adar yn trydar Does na neb yma i’w gydio A mae’r llynoedd yn fflydio A mae’r bullshit dal i ffrydio A mae pawb yn skint Croeso i ‘Brex-shit’ Ti a fi, da ni yn y run hunlle Dod o nunlle, mynd i Nantlle Cymryd pum munud, eistedd yn y gwagle Gorwedd ar y llawr, plygu lawr am tua hanner awr Bob person, dy bersawr, dim blawd Dim parasan, dim paned, dim awr – ‘mond hanner Dim parasan, dim jam, ti’n gwybod pam? Dim parasan, dim jam, ti’n gwybod pam? Ti a fi – Yn yr hunlle Dim parasan, dim paned, dim awr – ‘mond hanner Wrth gwrs da ni gyd yr un fath Pasia fi y pills jyst i fod yn saff A paid a gofyn am y sefyllfa Mae gennai bach o beswch mae’r holl beth yn ddrysfa Mae bobl yn mynd, a mae nhw’n siarad fel hyn: ‘Dim gorffenol, a be ddigwyddodd cyn A be ddigwyddodd cyn hynny’ Dw ni’m Dyma fi. Dwi ym Mae Colwyn Does na’m parasan, does na’m paned Does na’m awr – dim ond hanner Dim parasan Dim paned Dim awr Dim Jam Ti’n gwybod pam
8.
Arianrhod 03:47
Dwi lot llai clyfar na dwi isio bod Yn gorwedd gyda Arianrhod Dwi bron yn fyw dwi ddim yn dod A na’i dy weld di tua hanner ffordd Paid a creu helynt Jyst chwarae dy delyn Mae bob dim yn felyn Fel bywyd heb elyn Ti’n un o’r chwiorydd Sy’n llifo’r afonydd A gwneud mi’n aflonydd Y stormydd, cawodydd Yn erbyn yr elfenne Y clwb malu penne Tra dwi’n gorwedd yn yr weirglodd Ti’n cymryd yr awenne A o ni’n gorwedd yn yr weirglodd Ti’n cymryd yr awenne A clyma fi i’th olwyn arian Yn ddigon sydyn i greu trydan Daw gwynt y gogledd digon chwim Awn ni i guddio yn y rhedyn Ti di rhodd y ser, lleuad Sw ni di meddwl am bum eiliad Hyn oedd y dewis, dyma’r tynged Nawr mae bob dim yn camgymeriad Lle dwi’mynd Lle dwi di bod? Nunc video tenebris (lladin: ‘gweld y tywyllwch’) Tennar yn grogbris Dinistro cyhoeddus Bob munud yn boenus Cyfri pedwar bys a un bawd Cyfri ar y traed i esbonio’r anffawd A cyfri ar y milwyr, ar y morwyr Ac ar y gwleidyddion Tra mae pawb arall yn boddi Hei Billie-Jean ti di cael dy vaccine? Mae dy freichiau fel clai felly tyrd atai Hei Billie-Jean ti di cael dy vaccine? Mae dy freichiau fel clai felly tyrd atai Dwi lot llai clyfar na dwisio bod Dwi’n gorwedd efo Arianrhod Bron yn fyw, dwi ddim yn dod Nai dy weld di tua hanner ffordd Nai dy weld di tua hanner ffordd
9.
Esgyrn dan y patio Esgyrn dan y tai Olion cambyhafio Nawr dwi’n teimlo’n llai Creu geiriau hefo beiro Ysbrydion yn y ty Rhy hwyr i ymddihaero I’r ysbryd yn ty ni Esgyrn dan y patio Esgyrn dan y tai Ti yn dy westy yn ymlacio A rhywun arall yn cael bai Atgofion yn y sied Y moddion dan dy wely A dwi dal i glywed sain dy drwmped Tra dwi’n trio gwylio teli Ond peidiwch talu trwydded Am eich ‘Catch-up TV’ A peidiwch byth talu teyrnged i ni Mae na esgyrn dan y patio Mae na esgyrn dan y tai Dwi byth yn gallu teimlo Ond dwi’n gwenu mewn labordai Mae na esgyrn dan y patio Ysbrydion yn y ty Blynyddoedd yn cynllunio Ond ‘paid a synnu’ Paid a dibynnu Y genedlaethol wyr am hynny Paid a crynu Ni’n trio creu recordiau cymraeg Paid a poeni Amdan y pethau professiynol Ni yw’r Cymry Ha ha ha Mae na esgyrn dan y patio Mae na esgyrn dan y tai Ma na olion cambyhafio A nawr dwi’n teimlo’n llai Nawr dwi’n teimlo’n llai
10.
Rhy Fuan 03:25
Di bod yn cerdded ar y lon anghywir Am resymau technegol mi gefais fy mhleidleisio yn llywydd A noson o gwsg cyn pigo fyny’r trywydd Ddim yn un teg, teimlo fel y tywydd A ma’i dal rhy fuan A mae’r pennau bach yn troi fel tylluan Isafbwyntiau’r is-ymwybod ar ‘Youtube’ Y golygfeudd pan o ni’n gwrthod gwisgo mwgwd I fod yn adeiladol mi gymai dair siwgr Ag addo hyn ymlaen i fod yn llai llwgr Diodde gyda’r offrwm Lladd y dyn gyda gwn Chwarae dy offeryn Y dagrau, bob diferyn Yn troi mewn i Dryweryn Ond be sy’n digwydd wedyn? Mae’n rhy fuan Eistedd yn y cyntedd Ar ol y tro cyntaf Rhywun arall yn y cawod O ni’n teimlo’n eitha afiach Pam dwi mor wahanol? Dwisio bod fel pawb arall Ond wahanol Mae’n rhy fuan Ond dwi’m yn son am freuddwydio Mae’r ymenydd yn crwydro Mi welai di rhywdro Mae gennai ddiafol i’w frwydro Mae’n rhy fuan A ma’i ddal rhy fuan A’r pennau bach yn troi fel tylluan Rhy fuan
11.
Bach o ddamwain, bach o hap Ar y U-Bahn – ar y trac Abertawe, cymryd crack Ar goll – eithaf llac Dwi’n llefain, ti’n cymyd nap Sat-Nav yn y gaeaf Ffraeo fel rhyw cwpwl Does na’m cariad ‘na o gwbwl Fi di ‘Damwain’, ti di ‘Hap’ Ti’n adain, dwi mewn camp Dwi’n y dwyrain ti’n strap Dwi’n olrhain ti’n siap Dwi’n putain ti’n trap Mwy o ddamwain, llai o hap Rhoi sbardun ar dy gerdyn Fel sardin o bob ochr O bob dimensiwn – undegpedwar O bob dimensiwn – undegpedwar Gwrando am yr atsain – nap Siarad efo’n hunan Dwi’n gwerthu clap Dwi di cael dau ‘Pfizer’ Pedwar can o ‘Tizer’ Bach o paracetamol Gwylio ‘Easy Rider’ Gennai ‘duvet day’ Duvet know Be di’r font ‘ma cont? Dwi’m yn gwybod, mae o fatha hieroglyphics Tamed bach o damwain Tamed bach o damwain – siap Tamed bach o damwain Tamed bach o damwain – trap Tamed bach o damwain, lot o hap Cwrw arall, gwefus llac O leia dau fedr I ffwrdd o’r dyn a’r cenin pedr Run boi sy hefo’r popi Oedd o’n cael traferth efo’i popty Bach o ddamwain, bach o hap Ar y U-Bahn – ar y trac Abertawe, ar y crack Bach o ddawmain a ‘chydig bach o hap Spectol ar y U-Bahn, disgyn ar y trac Abertawe, cychwyn ar y crack Rhywbeth ar goll – eithaf llac Ychydig fwy o lefain Trio darllen map Troi ymlaen dy Sat-Nav Sydd yn gwmni dros y gaeaf Yn ffraeo fel rhyw cwpwl Dim cariad yna o gwbwl Mwy o ddawmain efo llai o hap Yn rhoi sbardun, a sgwennu ar dy gerdyn Gwasgu fel sardin o bob ochr O bob dimensiwn – yr undegpedwar Gwrando ar yr atsain a dwi’n cymryd nap Siarad hefo’n hunan dwi mewn siop gwerthu clap Dwi di cael dau ‘Pfizer’, pedwar can o Tizer A bach o paracetamol, ‘Easy Rider’ Dwi’n cael ‘duvet day’, duvet know A be di’t font ma cont? – Dwi ddim yn gwybod Mae o fatha hieroglyphics ond ychydig llai specific Ma na tamaid bach o ddamwain a lot o hap Gymrai gwrw arall dwisio gwefus llac Dwisio fod o leiaf dau fedr I ffwrdd a’r dyn a’r cenin pedr Yr un boi hefo’r popi Sy’n cael traferth hefo’i popty Dawmain a Hap
12.
Taflenni 03:45
Di bod yn rhannu y taflenni rhy hir Dadansoddi’r gwir Aur, Thus, Mur Llyncu fel mul Cinio Dydd Sul Enwogion yn dawnsio Chwyldro i’w lawnsio Byseddu’r ‘Daily Post’ Dros dy wy ar dost Mwy o farwolaethau Na buddugoliaethau Torri lawr y ffinie Ceisio gwneud ffrindie Papur sglodion Odli dros yr olion Inc ar bapurau Gwaed ar nofelau Clymu dy grie Sefyll ar dy sgwydde Gutenburg – mae’n troi’n ei lwch Taflenni o gelwydde Am llai na bum swllt Rhannu taflenni, beth ddoth dros fy mhen i? Dwi’n casglu’r calennig ben fy hunan eto ‘lenni Mae hi’n unig yma ‘lenni Rheoli y boblogaeth Sydd allan yn marchogaeth Ennyn dy gefnogaeth Gyda diffyg hunaniaeth Beth am y ‘Scum’ Peidiwch a prynu Llosgwch y pencadlys Cerddwch mas o’r ffatris Dechreuwch byta ffacbys Dangosa fi y map, plis (x2) Cymryd y tabledi, gorwedd ar dy wely (x2) Ti’n gorwedd ar dy wely (x4) Casglu’r calennig ben fy hunan eto ‘lenni A dwi’n rhannu taflenni, beth ddoth dros fy mhen i? Dwi’n casglu calennig ben fy hunan eto ‘lenni Hunan eto ‘lenni Unig yma ‘lenni Cymryd y tabledi Gorweddian ar dy wely A darllen y taflenni
13.
Methodist 03:45
Ble mae y gwyrthiau? Ga’i weld nhw weithiau Ormod o greithiau Cael fy effeithio Hel meddyliau Pawb yn defnyddio Pryd ddaw hyn i ben? Dwi’n addo breuddwydio Isda’n y pulpud Archwylio fy ngofid Rhannu fy ngeiriau Bob tro ti’n gofyn Dioddef o newyn Oedd bob dim mor newydd Ond i ti gofio Gadw’r addewid Pryd ddaw i hyn i ben? Dwi’n addo breuddwydio Dywedodd mam bod ni’n Methodists Gweld fwy o gwyrthiau nag o ni’n dyst Clywed angylion yn sibrwd yn ei chlyst Dywedodd mam bod ni’n Methodists
14.
Tybio 07:00
Murmur yn fy ngalon Teimlo mod i’n boddi Dwi di clymu i’r cadwyni Dwi methu datgysylltu A mae’r enaid sy tu fewn Yn dechrau toddi (dwi’n tybio) A bob rhagbyddiaeth Nawr yn cael ei torri A pam mae’r gwir yn dechrau Mae’n cadw ni yn effro A tydw i ddim di arfer Efo gymaint hyn o gyffro Mewn rhinweddau bach tywyll Dwi’n dechrau gweld goleuni A wedyn nes i benderfyny Trio cadw’n heini Yn fy meddwl yn ormodol – Dwi’n tybio Presennol, dyfodol – Dwi’n tybio Bodoli yn y cysgod – Dwi’n tybio Dio’m yn rhywbeth dwi’n adnabod – Dwi’n tybio Dwi’n tybio Nawr dwi’n erfyn arnat Cymera fi yn gyflawn A deud na hyn yw’r dechrau A nid yr atalnod llawn Dwi’n fwy anghyfforddus A ma na swyn yn fy llais Dwi’n byw yn fy nhydwybod A trio unrhyw ymgais Pan mae’r hin yn ymyryd Ac yn dynwared cariad Ond efo’r cariad yma (tybiaf) Does na ddim cymhariad A mae dy wedd wedi’i ddwyn A pryd oedd y tan? Ond efo’r ganwyll yn fy llygaid i Yn ysu am dy gusan A mae fy meddwl yn ormodol – Dwi’n tybio Presenol, dyfodol – Dwi’n tybio Bodoli yn y cysgod – Dwi’n tybio Dio’m yn rhywbeth dwi’n adnabod – Dwi’n tybio Yn fy meddwl yn ormodol – Dwi’n tybio Presenol, dyfodol – Dwi’n tybio Bodoli yn y cysgod – Dwi’n tybio Dio’m yn rhywbeth dwi’n adnabod – Dwi’n tybio Dwi’n tybio Felly paid a gofyn I mi fyw hebddot ti Achos dwi’m yn gallu cysgu A dwi’n breuddwydio amdanat ti Felly cadw dy deilmladau – A tybio ‘Sgwennu pethe lawr – A tybio Gadael i mi waedu – A tybio Dwi ddim y gwybod os fedrai neud hi – Dwi’n tybio Rhedeg trwy stormydd Dechrau cael fy nrysu A rhywle yn fy meddwl Mae na rhywun yn perlysu Ti’n codi awydd arnai I dorri lawr y gwarchau A does na’m geiriau allai’i ddefnyddio Di nhw heb cael ei dyfeisio eto Tybio
15.

credits

released May 1, 2021

license

all rights reserved

tags

about

Hap a Damwain Colwyn Bay, UK

Caneuon bop a baledi arbrofol o Fae Colwyn. Sefydlwyd yn 2019. Aelodau: Hap (Offerynau a thechnoleg) a Damwain (llais)

Pop songs and experimental ballads from Colwyn Bay. Established in 2019. Members: Hap (Instruments and technology) and Damwain (vocals)
... more

contact / help

Contact Hap a Damwain

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this album or account

If you like Hap a Damwain, you may also like: